Ffeithiau

  • Lleoliad: Ty Menai, Parc Menai, Bangor
  • Amser: Dydd Mercher 24 Medi 2014, 09:30–16:30
  • Cyflwynydd: Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd gyda Rob Holdway
  • Cyswllt: Sue Francis
    01248 388387
  • Mwy o wybodaeth: Am fwy o fanylion cliciwch yma.

Medi 2014

SuLlMaMeIGSa
123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
282930

Partneriad

Gweithdy Marchnata Gwyrdd

Nod y gweithdy undydd ymarferol hwn yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i'ch busnes ynghylch sut y mae modd defnyddio marchnata ‘gwyrdd' i ddenu mwy o gwsmeriaid i brynu eich cynnyrch a’ch gwasanaethau. Bydd y gweithdy'n ymdrin â themâu ac astudiaethau achos allweddol gan gwmnïau sydd wedi defnyddio cache amgylcheddol i hyrwyddo eu brand.

Caiff y gweithdy Marchnata Gwyrdd ei gyflwyno gan Rob Holdway, un o ymgynghorwyr amgylcheddol mwyaf blaenllaw'r DU, a bydd yn helpu cwmnïau i ddeall y cyfleoedd masnachol sy’n codi drwy hyrwyddo eu cynnyrch a’u gwasanaethau ar sail amgylcheddol, foesegol ac economaidd gadarn.   Bydd y gweithdy hefyd yn gyfle i gyfarfod â busnesau lleol a chyfnewid syniadau ynghylch beth yw'r ffordd orau i hyrwyddo eich cwmni yng Nghymru ac yn y DU gyfan.